2 Samuel 23

Geiriau olaf Dafydd

1Dyma eiriau olaf Dafydd:

“Neges Dafydd fab Jesse.
Neges yr un gafodd ei godi'n arweinydd,
a'i eneinio gan Dduw Jacob.
Neges hoff ganwr Israel.
2Roedd Ysbryd yr Arglwydd yn siarad trwof fi;
ei neges e oeddwn i'n ei rhannu.
3Mae Duw Israel wedi siarad.
Dyma mae Craig Israel yn ei ddweud:
‘Mae'r un sy'n llywodraethu'n deg,
gan roi parch i Dduw,
4fel golau haul ar fore braf digwmwl
yn gwneud i'r glaswellt dyfu o'r ddaear
a sgleinio ar ôl y glaw.’
5Ie, dyna sut mae Duw'n gweld fy nheulu!
Mae wedi gwneud ymrwymiad am byth i mi.
Mae'r cwbl wedi ei drefnu – mae'n siŵr o ddigwydd!
Bydd yr Arglwydd yn gwneud i mi lwyddo
ac yn dod â'r cwbl dw i eisiau yn wir.
6Ond mae dynion drwg fel drain
sy'n dda i ddim ond i'w torri i lawr.
Does neb yn gafael ynddyn nhw â'u dwylo,
7dim ond gydag arf haearn neu goes gwaywffon.
Mae tân yn eu llosgi'n ulw yn y fan a'r lle!”

Milwyr dewr Dafydd

(1 Cronicl 11:10-41)

8Dyma enwau milwyr dewr Dafydd:

Iashofam
23:8 fel 1 Cronicl 11:11; Hebraeg Iosheb-bashebeth. LXX  Jeshbaal.
yr Hachmoniad oedd pennaeth ‛Y Tri‛. Roedd e wedi lladd wyth gant o ddynion gyda'i waywffon mewn un frwydr.
9Yna'r nesa ato fe o'r ‛Tri Dewr‛ oedd Eleasar fab Dodo o deulu Achoach. Roedd e gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan wnaethon nhw gasglu i ryfel yn Pas-dammîm. Roedd gweddill byddin Israel wedi ffoi, 10ond dyma fe'n sefyll ei dir ac ymladd yn erbyn y Philistiaid. Roedd ei law wedi blino gymaint, ond wnaeth e ddim gollwng ei gleddyf. Dyma'r Arglwydd yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo y diwrnod hwnnw. Yna daeth y fyddin yn ôl, ond dim ond i ddwyn pethau oddi ar y cyrff!
11Y nesaf wedyn oedd Samma fab Age o deulu Harar. Un tro roedd byddin y Philistiaid wedi casglu yn Lechi lle roedd cae o ffacbys. Dyma fyddin Israel yn ffoi o flaen y Philistiaid, 12ond roedd Samma wedi sefyll ei dir yng nghanol y cae, i'w amddiffyn. Roedd wedi ymosod ar y Philistiaid, a dyma'r Arglwydd yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo.

13Un tro, adeg y cynhaeaf, aeth tri o'r ‛Tri deg‛ i lawr at Dafydd i Ogof Adwlam
23:13 Rhyw ddeuddeg milltir i'r de-orllewin o Bethlehem.
. Roedd mintai o Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn Reffaïm
23:13 Reffaïm Dyffryn oedd ryw 3 milltir i'r de-orllewin o Jerwsalem.
.
14Roedd Dafydd yn y gaer ar y pryd, tra roedd prif wersyll garsiwn y Philistiaid yn Bethlehem. 15Un diwrnod roedd syched ar Dafydd, a dyma fe'n dweud, “Mor braf fyddai cael diod o ddŵr o'r ffynnon sydd wrth giât Bethlehem!” 16Felly dyma'r ‛Tri Dewr‛ yn mynd trwy ganol gwersyll y Philistiaid a chodi dŵr o'r ffynnon wrth giât Bethlehem. Dyma nhw'n dod a'r dŵr i Dafydd, ond gwrthododd ei yfed. A dyma fe'n ei dywallt ar lawr yn offrwm i'r Arglwydd, 17a dweud, “Arglwydd, allwn i byth wneud y fath beth! Byddai fel yfed gwaed y dynion wnaeth fentro eu bywydau i'w nôl.” Roedd yn gwrthod ei yfed. (Dyna un enghraifft o beth wnaeth y ‛Tri Dewr‛.)

18Abishai, brawd Joab a mab Serwia, oedd pennaeth y ‛Tri deg‛. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda'i waywffon un tro. Roedd e'n enwog fel y Tri. 19I ddweud y gwir roedd yn fwy enwog na nhw, a fe oedd eu capten nhw. Ond doedd e ddim yn un o'r ‛Tri‛.
20Roedd Benaia fab Jehoiada o Cabseël
23:20 Cabseël Ar ffin ddeheuol Jwda, heb fod yn bell o Edom. gw. Josua 15:21
yn ddyn dewr hefyd. Roedd e wedi gwneud llawer o bethau dewr. Roedd wedi lladd dau o arwyr Moab. Roedd wedi mynd i lawr a lladd llew oedd wedi syrthio i bydew ar ddiwrnod o eira.
21Roedd hefyd wedi lladd cawr o ddyn o'r Aifft. Roedd gan yr Eifftiwr waywffon yn ei law, ond dim ond pastwn oedd gan Benaia. Dyma fe'n ymosod arno, dwyn y waywffon oddi ar yr Eifftiwr, a'i ladd gyda hi. 22Pethau fel yna wnaeth Benaia fab Jehoiada yn enwog fel y ‛Tri Dewr‛. 23Roedd y Tri deg arwr yn meddwl yn uchel ohono, er nad oedd yn un o'r ‛Tri‛. A dyma Dafydd yn ei wneud yn bennaeth ar ei warchodwyr personol.

24Yna gweddill y ‛Tri deg‛ oedd:

Asahel, brawd Joab,
Elchanan fab Dodo o Bethlehem,
25Shamma o Charod,
Elica o Charod,
26Chelets o Pelet,
Ira fab Iccesh o Tecoa,
27Abieser o Anathoth,
Mefwnnai o Chwsha,
28Salmon o deulu Achoach,
Maharai o Netoffa,
29Cheleb fab Baana o Netoffa,
Itai fab Ribai o Gibea yn Benjamin,
30Benaia o Pirathon,
Hidai o Wadi Gaash,
31Abi-albon o Arba,
Asmafeth o Bachwrîm,
32Eliachba o Shaalbon,
Meibion Iashen,
Jonathan fab
33Shamma o Harar,
Achïam fab Sharar o Harar,
34Eliffelet fab Achasbai o Maacha,
Eliam fab Achitoffel o Gilo,
35Chetsrai o Carmel,
23:35 Carmel Pentref tua naw milltir i'r de o Hebron (nid y Carmel yng ngogledd Israel)

Paarai o Arba,
36Igal fab Nathan o Soba,
Bani o Gad,
37Selec o Ammon,
Nachrai o Beëroth (oedd yn cario arfau Joab, mab Serwia),
38Ira yr Ithriad,
Gareb yr Ithriad,
39ac Wreia yr Hethiad.

(Tri deg saith i gyd.)

Copyright information for CYM